Gwybodaeth am y defnydd a wnaiff Asiantaeth yr Amgylchedd o gwcis porwyr y rhyngrwyd.
Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am eu gwneud yn hawdd, defnyddiol a dibynadwy. Pan fydd gwasanaethau yn cael eu darparu ar y rhyngrwyd, mae hyn weithiau yn golygu gosod ychydig o wybodaeth ar eich dyfais chi, er enghraifft, eich cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r wybodaeth yn cynnwys ffeiliau bychain a elwir yn friwsion. Ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod yn bersonol.
Bydd y darnau yma o wybodaeth yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau i chi, trwy, er enghraifft:
- alluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel na fydd raid i chi roi’r un wybodaeth dro ar ôl tro yn ystod un dasg
- sylweddoli eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair fel na fydd raid i chi wneud hynny am bob tudalen we y byddwch yn gofyn amdani
- mesur faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, fel y gellir eu gwneud yn haws a bod digon o gyfaint i sicrhau eu bod yn gyflym
- dadansoddi data dienw i’n helpu i ddeall sut y mae pobl yn rhyngweithio gyda gwasanaethau’r llywodraeth fel ein bod yn medru eu gwneud yn well
Gallwch reoli’r ffeiliau bychain hyn a dysgu mwy amdanynt ar wefan Directgov:
Os hoffech ddysgu sut i gael gwared ar friwsion a anfonwyd i’ch dyfais, ewch i about cookies.org.
Dadansoddi/metrics y We
Defnyddir y briwsion hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r safle. Mae’r briwsion yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys y nifer o ymwelwyr i’r safle, o ble y mae ymwelwyr wedi dod i’r safle ohono a’r tudalennau y maent wedi ymweld â nhw.
Enw’r Briwsionyn |
Disgrifiad |
Ble mae’n cael ei ddefnyddio ar ein safle a’n rhaglenni |
Dod i ben |
_UTMC |
Briwsionyn Dadansoddol Google. Yn olrhain pryd y mae ymweliad yn cychwyn ac yn dod i ben. |
Ar draws ein gwefan a’n porth Ymgynghori a gwefan y Gwasanaeth Labordai Cenedlaethol.
|
Hyd sesiwn. |
_UTMB |
Briwsionyn Dadansoddol Google. Yn olrhain pryd y mae ymweliad yn cychwyn ac yn dod i ben. |
Ar draws ein gwefan a’n porth Ymgynghori a gwefan y Gwasanaeth Labordai Cenedlaethol.
|
30 munud.
|
_UTMZ
|
Briwsionyn Dadansoddol Google. Yn olrhain o ble y daeth defnyddiwr (e.e. peiriant chwilio, chwiliad gair allweddol, dolen ac ati). |
Ar draws ein gwefan a’n porth Ymgynghori a gwefan y Gwasanaeth Labordai Cenedlaethol.
|
6 mis. |
_UTMA |
Briwsionyn Dadansoddol Google. Olrhain nifer o ymweliadau gan bob defnyddiwr, yr ymweliad cyntaf, a’r ymweliad olaf. |
Ar draws ein gwefan a’n porth Ymgynghori a gwefan y Gwasanaeth Labordai Cenedlaethol.
|
24 mis. |
uid
|
Rhif unigryw i olrhain y nifer o ymwelwyr sy’n dychwelyd i’r tudalennau chwilio.
Fel bod y gwasanaeth ar gael pan fydd arnoch ei angen ac yn gyflym, rydym yn mesur nifer yr ymwelwyr a’u cyfaint.
|
Ar draws ein gwefan. |
12 mis. |
IMRID |
Defnyddir gan Nielsen-Netratings i fonitro’r defnydd o wefannau.
Fel bod y gwasanaeth ar gael pan fydd arnoch ei angen ac yn gyflym, rydym yn mesur nifer yr ymwelwyr a’u cyfaint.
|
Ar draws ein gwefan a Beth sydd yn eich iard gefn, Cofrestr CCA. |
24 mis.
|
V5 |
Defnyddir gan Nielsen-Netratings i fonitro’r defnydd o wefannau.
Fel bod y gwasanaeth ar gael pan fydd arnoch ei angen ac yn gyflym, rydym yn mesur nifer yr ymwelwyr a’u cyfaint.
|
Cofrestr CCA |
465 diwrnod
|
Rheoli sesiwn
Enw’r Briwsionyn |
Disgrifiad |
Ble mae’n cael ei ddefnyddio ar ein safle a’n rhaglenni |
Dod i ben |
ASP.NET_SessionId
|
Briwsionyn arferol ID Sesiwn Microsoft .NET i gadw cyflwr sesiwn ar draws nifer o dudalennau. |
Safle, rhaglen Cofrestr Allyriadau, pecyn system fasnachu allyriadau’r UE (ETSWAP), cais am swydd, Geomatics Group gwefan, Catalog cyhoeddiadau, Cofrestr CCA. |
Diwedd y sesiwn.
|
JSESSIONID
|
Yn caniatáu i ddefnyddiwr gael ei adnabod mewn gwefan fel bod newidiadau neu ddata a ddewiswyd yn cael eu cofio o dudalen i dudalen. |
Rhaglen Ymrwymiad Lleihau Carbon, rhaglen rheoleiddio integredig, rhaglen ffurflenni gweithredwyr generig, rhaglen Rhybudd Llifogydd, Beth sydd yn eich iard gefn. |
Diwedd y sesiwn. |
FMSESSIONID
|
Yn caniatáu i ddefnyddiwr gael ei adnabod mewn gwefan fel bod newidiadau neu ddata a ddewiswyd yn cael eu cofio o dudalen i dudalen. |
Rhaglen reoleiddio integredig. |
Diwedd y sesiwn. |
OFSessionHash |
Yn cynnig dull o ymdrin â sesiynau ac awdurdodi ar OfficeForms – y pecyn ffurflenni a ddefnyddir i gyflwyno’r holl ffurflenni yn ETSWAP. |
Rhaglen system fasnachu allyriadau UE (ETSWAP), Cofrestr CCA. |
Diwedd y sesiwn. |
OFServerID |
Mae hwn yn galluogi OfficeForms i gadw eu cyflwr mewn sesiwn. |
Rhaglen system fasnachu allyriadau UE (ETSWAP), Cofrestr CCA.. |
Diwedd y sesiwn. |
Apache
|
Caniatáu olrhain sesiwn ar weinydd y we Apache. |
Rhaglen Rhybuddion Llifogydd. |
Diwedd y sesiwn. |
PHPSESSID
|
Yn caniatáu i ddefnyddiwr gael ei adnabod mewn gwefan fel bod newidiadau neu ddata a ddewiswyd yn cael eu cofio o dudalen i dudalen. |
Catalog cyhoeddiadau. |
Diwedd y sesiwn. |
X-Mapping
|
Yn anfon y defnyddiwr i’r un gweinydd y we wrth ofyn am bob tudalen. Mae gennym nifer o weinyddwyr y we, felly er mwyn sicrhau cysondeb ar sesiwn defnyddiwr, anfonir y defnyddiwr i’r un gweinydd bob tro. |
WIYBY application. |
Diwedd y sesiwn. |
v3_cookie_LB |
Briwsionyn i gadw cydbwysedd y llwyth gwaith. Rydym yn defnyddio nifer o weinyddwyr, felly mae defnyddio’r briwsionyn hwn yn gwneud y trafodion yn fwy effeithlon. |
Porth ymgynghori. |
Diwedd y sesiwn. |
ASP.NET_Authentication |
Yn caniatáu defnyddiwr i barhau i gael ei ddilysu wedi mewngofnodi. |
Cofrestr CCA. |
Diwedd y sesiwn. |
OFLogon |
Yn caniatáu defnyddiwr i barhau i gael ei ddilysu yn y pecyn ffurflenni wedi mewngofnodi. |
Cofrestr CCA. |
Diwedd y sesiwn. |
Cynnwys/rhyngwyneb wedi ei bersonoleiddio
I gofio eich dewisiadau neu hoffterau yr ydych eisoes wedi eu dangos wrth chwilio am wybodaeth neu’n defnyddio gwasanaeth.
Enw’r Briwsionyn |
Disgrifiad |
Ble mae’n cael ei ddefnyddio ar ein safle a’n rhaglenni |
Dod i ben |
lang |
Briwsionyn i gadw’r iaith a ddefnyddiwyd, Cymraeg neu Saesneg. |
Ar draws y wefan, rhaglen rheoleiddio integredig, rhaglen Beth sy’n Eich Iard Gefn. |
6 mis. |
style |
Gosod a chadw gwybodaeth arddull CSS (h.y. maint y Ffont) am y defnyddiwr. Storio dewis y defnyddiwr o ran maint y ffont. |
Rhaglen Ymrwymiad Lleihau Carbon, rhaglen ffurflenni gweithredwyr generig, system fasnachu allyriadau yr UE (ETSWAP), Catalog cyhoeddiadau, Cofrestr CCA. |
12 mis. |
text only |
Sy’n cofnodi a yw’r defnyddiwr wedi mynegi dewis o ran cyflwyniad testun yn unig. |
Rhaglen reoleiddio integredig. |
1 Ionawr 2050. |
npwd |
Yn cynnwys gwybodaeth gosmetig am y ddalen i’w dangos (EA,SEPA neu NIEA) |
Rhaglen Cronfa Ddata Gwastraff Pecynnu Genedlaethol |
50 mlynedd |
Atal cyflwyno lluosog
Enw’r Briwsionyn |
Disgrifiad |
Ble mae’n cael ei ddefnyddio ar ein safle a’n rhaglenni |
Dod i ben |
qbtest / qbtest2 |
Briwsionyn a ddefnyddir i bennu a yw defnyddiwr eisoes wedi a) cwblhau ein harolwg ar y we, b) gwrthod y ffenestr arolwg. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y ffenestr arolwg yn ymddangos i ddefnyddiwr bob tro y bydd yn dychwelyd i’n gwefan. |
Ar draws ein gwefan. |
12 months. |
Penodol i drafodyn
Enw’r Briwsionyn |
Disgrifiad |
Ble mae’n cael ei ddefnyddio ar ein safle a’n rhaglenni |
Dod i ben |
.RegistrySecure |
Sy’n cael ei greu pan fydd defnyddiwr yn mewngofnodi yn llwyddiannus i’r system. Defnyddir y briwsionyn i awdurdodi ceisiadau dilynol gan y defnyddiwr. |
Rhaglen y Gofrestr Allyriadau. |
Diwedd y sesiwn. |
.ASPXFORMSAUTH |
Gofynnol gan ddarparwr y mewngofnodi i olrhain a yw defnyddiwr wedi mewngofnodi. |
Rhaglen Cronfa Ddata Gwastraff Pecynnu Genedlaethol. |
2 awr. |
ASP.NET_SessionId |
Yn ofynnol i olrhain ymatebion gan Barclaycard ePDQ pan fydd y defnyddiwr yn gadael NPWD i wneud taliadau ar-lein. |
Rhaglen Cronfa Ddata Gwastraff Pecynnu Genedlaethol. |
2 awr.
|
Cwcis Trydydd Parti
GrŵpM - M4C Cwcis Swyddogol Asiantaeth Prynu Cyfryngau’r Llywodraeth
Er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth wario arian ar gyfryngau y telir amdanynt, dewisodd y Llywodraeth M4C fel yr unig asiantaeth brynu, mewn contract gyda Gwasanaeth Caffael y Llywodraeth. Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis fel y gofynnwyd amdanynt gan M4C er mwyn sicrhau eu bod yn deall effeithiolrwydd pethau fel ymgyrchoedd gwybodaeth ar-lein yn dda. Gosodir y cwcis hyn dim ond ar ychydig iawn o dudalennau ar lifogydd sy’n ffurfio rhan o ymgyrch gyfredol. Nis gosodir ar eich cyfrifiadur, oni bai yr ymwelwch â’r tudalennau hynny.
Gosodir y cwcis dilynol ar ein gwefan gan M4C at y dibenion dilynol:
Mae hyn yn galluogi darparwr y gwasanaeth hysbysebu i ddeall sut mae ymgyrchoedd yn perfformio a defnyddio hyn i wneud y gorau o’r wybodaeth a drosglwyddir i gleientiaid.
- Targedu ymgyrchoedd yn seiliedig ar ryngweithio rhwng defnyddwyr a gwefannau / hysbysebion cleientiaid
Mae hyn yn galluogi unrhyw ddarparwr o wasanaeth hysbysebu h.y. unrhyw fusnes a benodir gan M4C ar ran ein cleientiaid i hwyluso trosglwyddo hysbysebion i ddefnyddwyr, i dargedu hysbysebion i ddyfais yn seiliedig ar ei rhyngweithiad blaenorol gydag hysbysebwyr.
- Targedu a gwneud y gorau yn seiliedig ar ddata defnyddwyr
Mae hyn yn galluogi darparwr y gwasanaeth hysbysebu i dargedu a blaenoriaethu ynghylch pa hysbysebion a ddangosir i ddyfeisiau yn seiliedig ar ryngweithiadau blaenorol ar-lein. Mae’r rhyngweithiadau hyn yn cynnwys rhyngweithiadau gydag ymgyrch / gwefannau’r cleient, rhyngweithio gydag ymgyrchoedd / gwefannau eraill a gallant gynnwys rhagfynegiadau o ddiddordebau a grŵp sosiograffig a demograffig defnyddwyr.
Dwbl-glicio
Enw: id
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 2 flynedd.
Xaxis
Enw: id
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 13 mis
Enw: OAX
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 13 mis
Enw: mdata
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 13 mis
Enw: NSC*
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 13 mis
Enw: RMF*
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 24 mis
Appnexus (Yn cynnwys Xaxis zap trader ac anymedia)
Enw: sess
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 1 mis
Enw: uuid2
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 3 mis
Enw: anj
Cynnwys nodweddiadol: Rhif cyfresol unigryw
Dod i ben: 3 mis
A&NY/ Lotame
Enw: Aud
Cynnwys nodweddiadol: Gwybodaeth dargedu’r hysbyseb
Dod i ben: 270 diwrnod
Enw: Cc
Cynnwys nodweddiadol: Gwybodaeth dargedu’r hysbyseb
Dod i ben: 270 diwrnod
Ni fyddwn yn defnyddio briwsion i gasglu gwybodaeth y gellir ei hadnabod yn bersonol amdanoch chi.
Ond, os dymunwch gyfyngu neu atal y briwsion sy’n cael eu gosod gan ein gwefannau, neu yn wir unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn trwy osodiadau eich porwr. Fe ddylai’r tab ‘Help’ yn eich porwr ddweud sut i wneud hynny wrthych.
Fel arall, efallai y byddwch am ymweld â about cookies.org sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ar sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr. Fe allwch hefyd ddod o hyd i fanylion ar sut i ddileu briwsion oddi ar eich peiriant yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am friwsion.
Cofiwch y gall cyfyngu ar friwsion gael effaith ar ddefnyddioldeb ein gwefan.
Os dymunwch weld eich cod briwsion, cliciwch ar friwsionyn i’w agor. Fe welwch chi linyn byr o destun a rhifau. Y rhifau yw eich cerdyn adnabod, a dim ond y gweinydd a roddodd y briwsionyn i chi all eu gweld.
Am wybodaeth am sut i wneud hyn ar y porwr neu eich ffôn symudol bydd raid i chi gyfeirio at lawlyfr y ddyfais.
Er mwyn dewis i drydydd partïon beidio â chasglu unrhyw ddata am y modd yr ydych yn rhyngweithio â’n gwefan, cyfeiriwch at eu gwefannau am ragor o wybodaeth.