Ystyriwch yr amgylchedd a pheidiwch ag argraffu hwn os nad oes arnoch wirioneddol angen gwneud hynny

Atebion i’ch cwestiynau

Cefndir i’r wybodaeth

1.  Beth mae’r wefan hon yn ei ddangos i mi?

Mae’r map erydiad yr arfordir yn dangos rhagfynegiadau o sut gallai traethlin Cymru a Lloegr newid dros y ganrif nesaf.

Mae’n dangos, yn ogystal, sut mae awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu rheoli’r draethlin yn ystod y cyfnod hwnnw, a sut mae hynny’n debygol o effeithio ar gyfraddau erydiad. Gallwch chi ddilyn dolenni cyswllt i wybodaeth bellach ynghylch erydiad yr arfordir, llifogydd a rheolaeth gan ddefnyddio’r dolenni ar ymyl y dudalen hon.

2.  A yw hyn yn wahanol i’r wybodaeth erydiad yr arfordir yn fy Nghynllun Rheoli Traethlin?  

Seilir yr wybodaeth hon ar yr un data a fu’n sail i’ch Cynllun Rheoli Traethlin, a chafodd ei wirio’n drylwyr gan y rheiny a fu’n ymwneud â datblygu’r cynllun hwnnw.

Fodd bynnag, rydym wedi defnyddio model a ddyluniwyd yn benodol er mwyn cynhyrchu’r rhagfynegiadau o erydiad, ac yn annhebyg i lawer o Gynlluniau Rheoli Traethlin, rydym wedi defnyddio setiau data cenedlaethol a rhoi’r canlyniadau ar brawf yn erbyn y rhagamcaniadau diweddaraf ynghylch newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal, diweddarir y map erydiad yn rheolaidd gyda gwybodaeth newydd, tra seilir gwybodaeth Cynllun Rheoli Traethlin ar yr wybodaeth orau oedd ar gael pan gafodd ei gynhyrchu yn 2010-11.

Mewn rhai achosion, mae’r ffactorau hyn wedi golygu fod ein rhagfynegiadau o erydiad rhywfaint yn wahanol i’r rheiny a welwch yn eich Cynllun Rheoli Traethlin. Amlygir unrhyw wahaniaethau yn yr Adroddiad Cymharu yn yr Atodiad i’r cynllun.
 
3.  Pwy sy’n defnyddio’r wybodaeth hon am erydiad yr arfordir a pham?

Dyluniwyd yr wybodaeth er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch y perygl o erydiad yr arfordir, ac annog pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd arfordirol i ganfod mwy am – a bod yn gyfrannog mewn – rheoli’r arfordir ac ymaddasu ar gyfer newid.

Gellir defnyddio’r wybodaeth yn ogystal gan y rheiny sy’n ymwneud â chynllunio mewn ardaloedd arfordirol, fel awdurdodau lleol, fel un o’r nifer fawr o ffynonellau o dystiolaeth ble mae angen sylw arbennig ar erydiad yr arfordir, tirlithriadau a llifogydd wrth edrych ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

4.  Sut cynhyrchwyd yr wybodaeth?

Yn gyffredinol, rheolir erydiad yr arfordir gan awdurdodau lleol, felly, fel rheol, ganddynt hwy mae’r wybodaeth leol orau yn ei gylch - fel data monitro tymor hir. Mae’r rhagfynegiadau  a welwch yn cyfuno’r data lleol manwl hwn gyda gwybodaeth o asesiad cenedlaethol o erydiad a gyflenwir gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Dyma’r tro cyntaf i’r ystod o wybodaeth leol gael ei dadansoddi’n gyson a’i chyflwyno’n genedlaethol, gan ddefnyddio’r fethodoleg fwyaf datblygedig sydd ar gael - sy’n dwyn yr enw Asesiad Risg o Erydiad yr Arfordir - er mwyn cynhyrchu’r data terfynol.

5.  A yw’r wybodaeth fyth yn cael ei diweddaru?

Ydi. Pan fydd gwybodaeth bellach ar gael, caiff ei chynnwys mewn diweddariadau i’r wybodaeth gyhoeddedig. Mae arfordiroedd yn ddeinamig a gall rhagfynegiadau o erydiad gynyddu neu ostwng yng ngolau profiad, felly mae’n bwysig ein bod yn cadw’r wybodaeth hon mor gyfoes ag y bo modd.

Os digwydd i bolisi rheoli ar gyfer darn o’r arfordir newid o’r dewis gwreiddiol a ddetholwyd yn eich Cynllun Rheoli Traethlin, diweddarir hwn yn ogystal ar yr un pryd â’r Cynllun Rheoli Traethlin ei hunana.

6.  Pam fod angen i chi ddiweddaru’r wybodaeth?

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y cyhoedd. Mae ein modelau’n rhagfynegol a phe digwydd ‘digwyddiadau’ o erydiad fel  tirlithriadau, gall fod angen i ni adolygu’r data er mwyn cymryd yr wybodaeth newydd a dderbyniwyd i ystyriaeth.

Fel caiff modelau mwy manwl eu datblygu a gallwn gyrchu mwy o wybodaeth, rydym yn diweddaru ein gwybodaeth ni gyda hyn.

7.  Pa mor gywir yw’r data?

Mae rhagfynegi erydiad a thirlithriadau yn wyddor ansicr, yn arbennig ymhell ymlaen yn y dyfodol pryd mae ein dealltwriaeth o faint ac effeithiau’r codiad yn lefelau môr yn waeth. Dyma pam y dangosir yr erydiad a ragfynegir fel ystod, sy’n dangos terfynau uchaf ac isaf yr erydiad a ddisgwyliwn erbyn diwedd y cyfnod o amser a ddangosir.

Modelwyd erydiad trwy ddefnyddio’r wyddoniaeth orau sydd ar gael o amrediad o ffynonellau data. Nodwyd unrhyw ddata anghywir neu ar ôl yr oes ynghylch erydiad neu amddiffynfeydd arfordirol a’i gywiro trwy broses eang o ddilysu gydag arbenigwyr technegol mewn awdurdodau lleol.

8.  Sut cafodd y perygl o erydiad yr arfordir ei gyfrifo a sut mae hyn yn cymryd newid yn yr hinsawdd i ystyriaeth?

Cyfrifwyd y rhagfynegiadau yn y dudalen canlyniadau trwy ddefnyddio methodoleg y gellir ei chymharu â’r un a ddefnyddiwn er mwyn asesu perygl llifogydd. Gan ddefnyddio’r Asesiad Risg o Erydiad yr Arfordir (RACE) defnyddiwn ystod o ddata gan gynnwys patrymau hanesyddol o erydiad, gwybodaeth ddaearegol a chyflwr unrhyw amddiffynfeydd arfordirol, er mwyn pennu lledaeniad tebygol erydiad a’r effeithiau y gallai hyn ei gael.

Mae’r fethodoleg RACE yn cynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lefelau’r môr ac ymchwyddiadau storom a fesurwyd hyd yma, ond bu angen gwneud gwaith profi ychwanegol ar y canlyniadau er mwyn cynnwys y rhagamcaniadau diweddaraf ynghylch newid yn yr hinsawdd ar gyfer y DU (UKCP 09). Gwnaethpwyd hyn trwy ddefnyddio profion sensitifrwydd ar senarios UKCP09 mewn ystod o leoliadau o amgylch yr arfordir er mwyn cymharu rhagfynegiadau erydiad gyda’n canlyniadau gwreiddiol.

Nid yw llawer o Gynlluniau Rheoli Traethlin yn cynnwys UKCP09 o fewn eu dadansoddiad o erydiad yr arfordir. Ble ceir gwahaniaethau rhwng eu data nhw a’r wybodaeth ar y wefan hon, amlygir hyn yn atodiad y Cynllun Rheoli Traethlin.

Beth mae’r wybodaeth hon yn ei olygu ar eich cyfer chi

9.  Mae fy Nghynllun Rheoli Traethlin yn dweud y dylid amddifyn yr arfordir ble rwyf i’n byw ond ni wnaethpwyd hyn – pam?   Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin yn ddogfennau cynllunio strategol hollbwysig ond nid ydynt yn ddogfennau ‘statudol’ – sy’n golygu nad oes gan eu cynnwys unrhyw bwysau cyfreithiol.

Oherwydd hyn, mae polisïau rheoli a gytunir ynddynt ar gyfer darnau penodol o’r arfordir yn parhau i fod yn ‘ddyhead’ nes lluniwyd dyluniad llawn a gwerthusiad o gostau a buddion gwaith amddiffyn. Mewn rhai ardaloedd ceir dadl glir dros barhau i amddiffyn neu dros adeiladu adeiladwaith newydd - mewn achosion eraill nid yw’r ddadl mor eglur, ac mae angen astudiaethau manwl, ac weithiau rhagor o gyllid. Mewn llawer o achosion, bydd angen i’r cyllid hwn gael ei ganfod o du allan i gyllideb y Llywodraeth.

10. Rwyf yn gwybod bod fy ardal i o’r arfordir wedi’i amddiffyn – a yw hyn yn golygu nad wyf mewn unrhyw berygl?

Nid o reidrwydd. Ni chaiff pob amddiffynfa arfordirol ei chynnal am byth, ac mae’r gwaith cynnal a chadw cyfredol arnynt yn dibynnu ar gyllido–  ac mae’n hollol bosibl y gall fod angen i beth o hwn gael ei ganfod o du allan i gyllideb y Llywodraeth.

Gallwch barhau i fod mewn perygl o lifogydd o afonydd – gwiriwch eich Map Llifogydd er mwyn canfod p’un ai ydych ai peidio. Hyd yn oed ble mae amddiffynfeydd yn bodoli, mae perygl ‘gweddilliol’ o erydiad a llifogydd yn dal i fod yn bresennol ble mae tywydd eithafol yn achosi i donnau orlifo neu ddifrodi amddiffynfeydd – yn arbennig wrth i lefelau’r môr godi.

Pwysig: mae rhai ardaloedd ar yr arfordir yn dueddol o ddioddef tirlithriadau, a achosir gan y rhyngweithiadau rhwng dŵr daear, priddoedd a chreigwely. Gall y prosesau hyn barhau, ni waeth pa amddiffynfeydd rhag erydiad o’r môr sy’n bresennol. Am fwy o wybodaeth, edrychwch yn y. Cynllun Rheoli Traethlin neu cysylltwch â’r awdurdod lleol a ddangosir yn y tabl canlyniadau.

11. A fydd fy yswiriwr yn defnyddio’r wybodaeth erydiad yr arfordir?

Gall yr wybodaeth hon gael ei chadw gan y diwydiant yswiriant ond nid yw’n debygol o gael ei defnyddio wrth gyfrifo premiymau oherwydd, fel rheol, nid yw’n bosibl cynnwys yswiriant yn erbyn erydiad arfordirol o’r môr mewn polisïau yswiriant adeiladau domestig a chynnwys.

Oherwydd ei bod yn asesiad cenedlaethol a fwriedir fel cyfarwyddyd, nid yw’r wybodaeth hon yn darparu manylion ar gyfer eiddo unigol.

Nid yw’r Datganiad Egwyddorion ynghylch llifogydd ac yswiriant a luniwyd gan y Llywodraeth a Chymdeithas Yswirwyr Prydain yn cwmpasu erydiad yr arfordir.

12. Beth os oes unrhyw wallau yn y data – a fydd hyn yn effeithio ar fy yswiriant tŷ?  

Fel rheol, nid yw’n bosibl cynnwys yswiriant yn erbyn erydiad arfordirol o’r môr mewn polisïau yswiriant adeiladau domestig a chynnwys, ac felly ni ddylai premiymau yswiriant gael eu heffeithio gan naill ai gyhoeddiad na chywirdeb y data hwn.

Fel rheol, cwmpasir tirlithriad, ymsuddiad a gwthiad gan bolisïau domestig. Dengys gwybodaeth ar y wefan hon ragfynegiadau o enciliad  a achosir gan erydiad ‘syml’ gan y môr ar ei ben ei hunan, a grymoedd cyfunol erydiad graddol a thirlithriadau ysbeidiol ble gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng effaith gymharol bob proses ar enciliad. Yn yr achosion ‘cyfansawdd’ hyn, gall perchnogion eiddo a chwmnïau yswiriant gynnal arolygon penodol er mwyn penderfynu ar ddarpariaeth polisi addas. Dylech siarad â’ch darparwr yswiriant os oes gennych unrhyw ansicrwydd ynghylch sut gallai ansefydlogrwydd tir effeithio ar eich polisi.

13. Pam nad oes gwybodaeth ynghylch y perygl o erydiad yr arfordir ar gyfer fy ardal i?

Nid yw pob rhan o’r arfordir yn dioddef erydiad yr arfordir  - yn yr achosion hyn, amlygir hyn ac fe’ch cynghorir i edrych ar fapiau Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn gweld p’un ai ydych mewn perygl o lifogydd.

Mewn rhai ardaloedd, rydym wedi trafod cyhoeddi gydag awdurdodau lleol ac wedi penderfynu peidio â chyhoeddi gwybodaeth am erydu ar-lein mewn ardal benodol, neu oedi cyn cyhoeddi ar hyn o bryd. Gallai hyn fod oherwydd bod y data ond newydd ddod yn derfynol neu fod angen ei ddiweddaru, neu oherwydd nad ydym wedi cytuno ar bolisïau'r Cynllun Rheoli'r Draethlin eto.

Dylai gwefannau Cynllun Rheoli'r Draethlin ac awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am erydu lleol. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar gyhoeddi gwybodaeth bellach am erydu ar y wefan hon yn y dyfodol.

Noder nad yw’r mapiau hyn cynnwys rhai ardaloedd moryd.

14. Nid wyf yn cytuno â’r map ar gyfer fy ardal i -  dymunaf herio eich gwybodaeth 

Os ydych chi’n credu nad yw lleoliad penodol mewn perygl o erydiad yr arfordir, neu os oes gennych wybodaeth y credwch nad ydym ni wedi ei hystyried, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 03706 506 506. Byddwn yn ystyried eich sylwadau a chynghori ynghylch y weithdrefn briodol. Fodd bynnag, byddem yn annhebygol o fedru ystyried diwygiad i’r wybodaeth hon ar sail tystiolaeth storïol yn unig.

15. Sut fedra’i gael copi ar bapur o’r wybodaeth?

Gallwch dderbyn yr wybodaeth mewn ‘fformat sefydlog’ naill ai trwy e-bost neu’r post drwy ein galw ni ar 03706 506 506.

16. Sut fedra’i gyrchu’r data a ddefnyddiwyd er mwyn datblygu’r wefan hon?

Byddwch gystal â chysylltu â ni ar 03706 506 506 er mwyn trafod gofynion data a thrwyddedu, a thelerau ac amodau defnyddio.

Sut i ddehongli’r wybodaeth

17. Beth ydych chi’n ei olygu gan 'bolisi Cynllun Rheoli Traethlin'?

Dyma’r dull trosfwaol o fynd ati i reoli  ar gyfer pob darn o’r arfordir a gytunwyd gan awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, y cymunedau lleol ac eraill sydd â diddordeb.

Ar y map ei hun, mae hyn yn golygu'r dull o fynd ati i reoli a gytunwyd ar gyfer oddeutu’r 20 mlynedd gyntaf o’ch Cynllun Rheoli Traethlin lleol, hyd at oddeutu 2030. Gall y polisi newid ar ôl y cyfnod hwnnw, a chaiff yr wybodaeth hon ei diweddaru yn unol â hynny. Cytunir polisïau mewn Cynlluniau Rheoli Traethlin ar gyfer y 100 mlynedd nesaf, ond gall penderfyniadau polisi newid wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwnnw.

Noder fod y dyheadau i ‘Ddal y Lein’ yn dibynnu ar sicrhau cyllid er mwyn cynnal neu adeiladu amddiffynfeydd.

  • Canfyddwch fwy ynghylch polisïau Cynllun Rheoli Traethlin 

18. O ble fyddwch chi’n dechrau mesur erydiad?

O gefn y lan – mewn geiriau eraill, nid yw traethau, fflatiau llaid na nodweddion blaendraeth eraill yn cael eu cynnwys yn yr asesiad. Ble ceir clogwyni, mesurir erydiad o frig wyneb y dibyn.

19. A yw eich dull o fesur y perygl o erydiad yn cynnwys risg o dirlithriadau?

Ydi. Mae’r wybodaeth ar y wefan yn dangos rhagfynegiadau o enciliad a achosir gan erydiad ‘syml’ o’r môr ar ei ben ei hun, a grymoedd cyfunol erydiad graddol a thirlithriadau ble gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng effaith gymharol bob proses ar enciliad.

Ble na ddangosir unrhyw ragfynegiadau erydiad oherwydd ceir dyhead i adeiladu neu gynnal amddiffynfeydd, gall peryglon ddal i fodoli o dirlithriad yn digwydd tu ôl yr amddiffynfeydd hynny. Gwiriwch yn y Cynllun Rheoli Traethlin neu gyda’r awdurdod lleol a ddangosir yn y tabl canlyniadau.

20. Mae’r wybodaeth ar gyfer fy ardal i’n dweud fod erydiad yr arfordir yn ‘amherthnasol’ – beth yw ystyr hynny?

Ble cytunwyd yn eich  Cynllun Rheoli Traethlin y bydd safle’r draethlin yn cael ei gosod yn ôl yn artiffisial neu ei symud tua’r môr mewn dull wedi’i reoli, ni ystyrir fod erydiad naturiol yn berthnasol i’r draethlin honno nes i’r gwaith gael ei gwblhau. Bryd hynny, diweddarir y wefan hon er mwyn adlewyrchu safle newydd y draethlin, y polisi rheoli ac unrhyw ragfynegiadau am erydiad a fedrant fod yn berthnasol.

21. Mae’r wybodaeth ar gyfer fy ardal i’n dweud fod ‘y pethau sy’n achosi ansefydlogrwydd clogwyni’n gymhleth’– beth yw ystyr hyn ac o ble fedra’i gael mwy o wybodaeth?

Mae’n golygu, yn y fan yr ydych wedi’i dethol, fod strwythur y ffurfiannau craig sylfaenol a’r rhyngweithiadau dŵr daear yn gymhleth iawn, gan ei gwneud bron yn amhosibl rhagfynegi risg yn ddibynadwy. Nid yw hyn, o reidrwydd, yn golygu fod yna risg uchel.

22. Os wyf i mewn perygl o erydiad, a fedrwn i fod mewn perygl o lifogydd yn ogystal?

O bosib – mewn rhai mannau ble mae’r tir yn isel, gall y perygl o lifogydd o’r môr fod yn gysylltiedig ag erydiad yr arfordir. Gallwch fod mewn perygl o lifogydd o afonydd yn ogystal. Gwiriwch ein Map Llifogydd er mwyn canfod mwy.

23. Beth ydych chi’n ei olygu gan ‘math o amddiffynfa’?

Fel rheol, mae polisïau rheoli er mwyn dal neu symud safle cyfredol y draethlin ymlaen yn ymwneud â defnyddio amddiffynfa artiffisial, fel morglawdd neu grwyn o graig. Defnyddiwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol Llifogydd ac Amddiffyn yr Arfordir gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol er mwyn dangos y math o amddiffynfeydd a ddefnyddir, a ble bo’r angen, ategwyd at hyn gan wybodaeth a loffwyd yn lleol.